Home » Outdoor Articles » Shhhh Cwmni odan y ‘radar’!

Shhhh Cwmni odan y ‘radar’!

By Tryfan Williams   

on December 4, 2012    No ratings yet.

Shhhh Cwmni odan y ‘radar’!

Yn y cyntaf o gyfres o erthyglau gan wahoddedigion arbennig rydym am gael trafodaeth ar ‘base a mid-layers’, a naci ddim byd i wneud gyda cerddoriaeth Dr.Dre! Mwynhewch . . .

Ma ‘na lwyth o gwmnïoedd allan yn y byd mawr o ddillad mynydda – Berghaus, Lowe Alpine, Rab, North Face ayyb. Dwi ‘di neud dipyn o waith yn y 4/5 mlynedd diwethaf allan yn yr oerni ag yn ystod y nôs, yn defnyddio dipyn o ddillad, yn enwedig ‘base-layers’ a ‘mid layers’ gan y gora ohonyn nhw. Ond yn y flwyddyn ddiwethaf mae rhaid mi ddweud ma ‘na gwmni ar ‘par’ os nad gwell, nesi ddod ar draws drwy ddamwain. Oni isio gael hyd i ‘base-layer’ gyda chdig bach o steil heb fod yn dros ben llestri, ond oni hefyd angen ‘base-layer’ sydd yn mynd i allu sefyll ar ben ei hun, heb golli ar performance.

So, medda chi gyd, tyrd a hi ta, wel dwnim os dwi isio i’r byd rhannu efo fi, dwi’n licio cael dillad does neb arall o gwmpas yn ei wisgo, ond dyma ni ta. I ddangos faint o hael dwi’n gallu bod, hwn di’r gyfrinach . . .OMM. Na dim dechra meditation ydwi, OMM neu i roi ei enw cyfan ‘The Original Mountain Marathon’.  Cwmni ar hyn o bryd dwi wedi cael un Base layer top, sef y Vector Zip ag un ‘Mid Layer fleece’, sef y Radian.

Mae’r ‘base-layer’  yn ideal, wedi ei neud o ‘High Wicking Polyester’ sydd yn ysgafn 200g. Mae’r ‘Radian Mid Layer’ hefyd yn ysgafn am ei ddefnydd, ideal at wisgo ar ôl diwrnod o gerdded. Mae o wedi’i neud o ‘Polartec® Classic Micro’ efo paneli o ‘Prio-fleece stretch panels’ i gynnyddu y symudiad yn y ‘fleece’ pan bod angen.

Felly mi fyddai yn meddwl am y cwmni yma am y darn nesa i’r kit, sef ‘Insulation top’ neu ‘Windproofing’, gwnewch siŵr bod chi hefyd yn sbïo arnynt yn lle’r Mainstream Big Boys!

Berwyn Williams

aka Hogyn y Mynydd.

Please rate this

Tryfan Williams

I’m a Welshman born and raised in the shadow of Snowdonia, and you could say the Mountains are in my blood with a name like Tryfan! I would class myself as a relative newcomer to the outdoor pursuits arena, and so my articles will be my attempt to chronicle my adventures, hopefully learning as I go and giving those that are in a similar boat an insight / forum to share and learn.

More Posts By This Author

1 thought on “Shhhh Cwmni odan y ‘radar’!”

  1. Rhaid imi gytuno – mae stwff yr hen OMM yn gret. Sgen i ddim o’r dillad, ond gen i deulu o’r paciau bellach!!!

    Edrych ‘mlaen i’r nesaf – wnai gadw llygaid allan am rhai o’r rhain ar ‘special’!

Comments are closed.